Datganiad hygyrchedd ar gyfer Dod o Hyd i Fanylion Cyswllt Pensiwn
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r holl wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r holl wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni mewn person
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sy'n fyddar, pobl â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Cysylltwch â ni ar www.gov.uk/cysylltwch-ar-ganolfan-bensiwn-y-dyfodol
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.
Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd (yn agor mewn tab newydd).
Os yw'r broblem yn golygu na allwch ddefnyddio'r wefan hon, ffoniwch:
- 0800 731 0193
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Equality Advisory and Support Service (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r DWP wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2
Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon
Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni drwy roi gwybod am ddigwyddiad ym
- PDF hygyrch
- print bras
- hawdd ei ddarllen
- recordiad sain neu Braille
Cysylltwch â ni ar www.gov.uk/cysylltwch-ar-ganolfan-bensiwn-y-dyfodol
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Tachwedd 2024. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Hydref 2024. Cynhaliwyd y profion hygyrchedd gan y tîm digidol cyn ymddeol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Rydym wedi profi ein gwefan yn llawn ac mae ar gael yn admin.findpensioncontacts.service.gov.uk/